Pam ddylech chi ymuno â ni
Mae gweithio i’r
gwasanaeth tân ac achub yn rôl sy’n cael ei pharchu yn y gymuned. Rydym yn dibynnu ar dîm o bobl gyda chyfuniad
o sgiliau a phrofiad, i ddarparu gwasanaeth rheng flaen effeithiol ac i wneud
ein hardal yn fwy diogel rhag tân.
Mae Gwasanaeth
Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn sefydliad blaengar, sy’n
gwerthfawrogi arloesedd, pobl, cymunedau amrywiol a gwasanaeth. Rydym yn ymrwymedig i weithio gyda’r
cymunedau a wasanaethwn, i wneud Canolbarth a Gorllewin Cymru yn lle mwy diogel
i fyw, i weithio ac i ymweld ag ef.
Rydym yn
ymrwymedig i helpu ein staff i gyrraedd a chynnal ansawdd da o fywyd, trwy
gynnig amryw o gynlluniau yn y gweithle, i gynorthwyo’r gweithwyr, yn cynnwys
trefniadau gweithio hyblyg, pensiwn cyflog terfynol a hyd at 33 diwrnod o
wyliau blynyddol.
Os oes gennych
ddiddordeb mewn ymuno â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru,
yna cliciwch yma i ddarganfod mwy am ddod yn ddiffoddwr tân ar alwad, neu i
gael mwy o wybodaeth am rai o’r rolau eraill sy’n hanfodol i’r Gwasanaeth. Cliciwch yma i weld ein swyddi gwag presennol.
Cynlluniau
Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – Staff Cymorth a’r Ganolfan Reoli
Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015