Dod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad
Mae diffoddwyr
tân ar alwad yn rhan hanfodol o rwydwaith y gwasanaethau brys ac maent yn hanu
o gefndiroedd o bob math. Yn aml, maent
wedi dewis gyrfa tu allan i’r gwasanaeth tân, ond maent hefyd yn dymuno
gwasanaethu eu cymuned fel diffoddwr tân, yn barod i ymateb i argyfyngau, i
atal achosion o dân ac achub rhag digwydd a diogelu pobl ac eiddo ar hyd a lled
Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Argaeledd
Mae'n amhosibl rhagweld pa mor aml y byddech yn galw allan, ond y cyfartaledd yw tua 2-3 gwaith yr wythnos am ychydig o oriau ac mae angen i chi i fyw o fewn 10 munud o Orsaf Ar-Call.
Os nad ydych ar gael i ddarparu gwasanaeth drwy'r amser, nid yw hynny'n broblem, gallwch gael eich talu am fod ar alwad am ran o'r dydd neu'r wythnos.
Bydd pob Ddiffoddwr Tân Ar-alwad yn cael o leiaf 28 diwrnod o wyliau'r flwyddyn, yn codi i 35 diwrnod ar ôl pum mlynedd o wasanaeth di-dor.
Os am wybodaeth bellach am ein swyddi gwag ni, cysylltwch â’r tîm recriwtio ar 01267 226832 neu anfonwch unrhyw gwestiynau sydd gennych ar e-bost i personnel@mawwfire.gov.uk
CAIS I DDYCHWELYD I GYFLOGAETH (AR ALWAD YN UNIG)
Gellir cynnig yr opsiwn o "ddychwelyd i gyflogaeth" pan fydd gweithiwr wedi terfynu ei Gontract Ar Alwad â GTACGC, a hynny'n wirfoddol, ac yn gofyn am ddychwelyd i gyflogaeth o fewn pedair blynedd i'r diwrnod dyletswydd diwethaf sydd wedi'i gofnodi ar ei gyfer.
Mae'r cyfleuster hwn ar gael i'r cyflogeion hynny sy'n dymuno dychwelyd i rôl diffoddwr tân, a'r cyflogeion hynny yn unig. Er bod personél a fu yn Rheolwyr Criw neu Reolwyr Gwylfa yn flaenorol yn gymwys i wneud cais, dim ond i rôl diffoddwr tân y gallant ddychwelyd.
Cysylltwch â'r tîm Recriwtio am ragor o wybodaeth, a hynny trwy ffonio 01267 226832 neu anfon neges e-bost i personnel@mawwfire.gov.uk.