Gwasanaeth Tân ac
Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Mewn achosion o lifogydd, mae
gennym ddyletswydd ble bod perygl i fywyd neu risg o dân. Yn aml, does dim llawer y medrwn ei wneud
unwaith y byddwn wedi cwblhau’r gwaith achub. Pan fod adeilad dan ddŵr a bod y llifddwr yn dal i fod yn uchel tu
allan, bydd y dŵr yn dod yn ôl i mewn yn syth wedi iddo gael ei bwmpio
allan.
Awdurdodau
Priffyrdd
Mewn achosion o
lifogydd, maent yn gyfrifol am gadw’r ffyrdd a draeniad y ffyrdd yn glir. Fodd bynnag, gall rhai ffyrdd fod yn
gyfrifoldeb i’r Asiantaeth Priffyrdd neu berchenogion preifat.
Gwasanaethau
Cymdeithasol
Maent yn gyfrifol
am ofalu am yr henoed, y methedig a phobl agored i niwed.
Cynghorau
Dosbarth ac Unedol
Maent yn helpu i
ailgartrefu pobl agored i niwed a wnaed yn ddigartref, ble nad oes ateb arall;
casglu sbwriel; a chyngor i’r cyhoedd ar yfed dŵr a diogelwch bwyd.
Cwmnïau Dŵr
Maent yn gyfrifol am waredu a thrin dŵr gwastraff (carthion). Mae glaw anghyffredin o drwm, ar ffurf
stormydd lleoledig difrifol gan amlaf, yn medru gorlethu systemau draenio ac
achosi llifogydd, yn enwedig mewn ardaloedd isel. Yn yr amgylchiadau yma, gall carthion heb eu
trin sarnu allan i’r strydoedd ac i erddi. Bydd y cwmnïau dŵr yn cynorthwyo ble bod hynny’n bosib, i gyfyngu’r dŵr
sy’n dianc o’r system, a byddant yn tacluso’r ardaloedd ble mae carthion wedi
sarnu, unwaith bydd y llifogydd wedi cilio.