Troseddau a Chanlyniadau Prosiect
Mae Llosgi Bwriadol, Troseddau Ceir ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn 3 o’r problemau mwyaf sy’n effeithio ar Canolbarth a Gorllewin Cymru bob blwyddyn.
- Ar gyfartaledd, ceir 3,592 o Danau Glaswellt yn Canolbarth a Gorllewin Cymru bob blwyddyn.
- Canolbarth a Gorllewin Cymru yw un o’r ardaloedd a effeithir fwyaf gan Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn y DU, gyda rhwng 74,000 - 113,000 o achosion fesul 1,000 o drigolion yn 2009.
- Gwrthdrawiadau ar y Ffordd yw lladdwr mwyaf pobl ifanc rhwng 17-25 oed ac ail laddwr mwyaf plant rhwng 5-14 oed (ail i ganser).
Mae Troseddau a Chanlyniadau yn brosiect newydd arloesol, sy’n anelu at leihau nifer y tanau bwriadol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol perthynol i dân, megis ymosodiadau ar Ddiffoddwyr Tân a ffug alwadau.
Bydd y prosiect yn gweithio’n agos gyda 2,000 o Bobl Ifanc rhwng 11 a 25 oed, gan eu haddysgu nhw am beryglon cyfranogi yn y 3 phwnc craidd. Trwy gyfrwng sesiynau cyfranogol, bydd y bobl ifanc yn ymchwilio i resymau ac ymddygiad a fydd yn arwain at gyfranogi yn y pynciau, a byddant yn cael eu hannog i fynegi eu barnau a’u safbwyntiau yn hollol agored.