Lleolir Doc
Penfro (poblogaeth o 22,098) ar lan ddeheuol moryd Cleddau ger hen dref Penfro.
Mae’r orsaf yn
cynnwys de orllewin Sir Benfro gan gynnwys Angle, Hundleton, Freshwater East a Llandyfái.
Mae’r diwydiant ynni yn ffurfio prif risg yr ardal am fod purfa olew fawr a
gorsaf ynni nwy newydd yn yr ardal. Mae hyn yn pennu bod rhaid i’r diffoddwyr
tân yn Noc Penfro gael gwybodaeth arbenigol i allu ymdopi â’r risgiau sy’n
gysylltiedig â’r llongau yn y porthladd a’r cyfleusterau diwydiannol mawr sydd ar
y lan. Mae’r terfynfa fferi sy’n cario llwythi a theithwyr i Iwerddon â’r
traffig perthynol ar hyd yr A477 yn cynyddu’r risg o wrthdrawiadau traffig
ffyrdd. Mae risgiau eraill yn cynnwys risgiau domestig a’r isadeiledd sy’n
hanfodol mewn tref o’r fath hon a chanddi ffin forol ar dair ochr.