Mae
Aberdaugleddau, a chanddi boblogaeth o 21,550, ar lan gogledd moryd Cleddau.
Mae’r orsaf yn
cynnwys gorynys Dale hyd Aberllydan a Johnston a Neyland.
Mae’r risgiau yn ddiddorol ac yn amrywiol, ac maent angen hyfforddiant a
gwybodaeth arbenigol gan y diffoddwyr tân sy’n gweithio yn yr orsaf. Y
porthladd yw’r trydydd mwyaf ym Mhrydain ac fe ddeliodd â 43 miliwn tunnell o
lwythi yn 2010. O fewn pum milltir i’r Orsaf, mae un burfa olew a dau
gyfleuster nwy naturiol hylifedig sy’n cyflenwi 30% o ofynion nwy'r DU.
Mae’r dref
wedi’i hadeiladu o amgylch y dociau y buont yn borthladd pysgota llwyddiannus
ac mae ganddi ddoc sych prysur a marina ac mae’r rheilffordd yn terfynu yn y
dociau. Mae hefyd diwydiant ysgafn, amaethyddiaeth, twristiaeth a sawl milltir
o forlin sy’n ychwanegu at natur amrywiol y risg.