Lleolir y Gelli Gandryll ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae’r rhan fwyaf
o’r dref yng Nghymru, ond mae ei rhannau dwyreiniol yn Lloegr. Poblogaeth
bresennol y Gelli Gandryll yw 4,301. Mae’r Orsaf yn gwasanaethu tref y Gelli
Gandryll a chymunedau cyfagos y Clas-ar-Wy a Chleiro.
Y prif risg ar
gyfer y Gelli Gandryll a’i chymunedau cyfagos yw’r rhwydweithiau o ffyrdd A a B
yn yr ardal. Mae tref y Gelli Gandryll yn dref farchnad brysur a chanddi amryw
o dafarndai a gwestai yn ogystal ag amryw o siopau llyfrau y mae’r dref yn enwog
amdanynt. Mae gan y dref hefyd risgiau eraill sy’n cynnwys Afon Gwy, sy’n
boblogaidd ymhlith twristiaid trwy’r flwyddyn yn ogystal â gŵyl fyd-enwog y
Gelli Gandryll sy’n cael ei chynnal dros 10 diwrnod ym mis Mai ac sy’n denu
miloedd o ymwelwyr i’r ardal.