Mae gan ardal gorsaf Rhydaman boblogaeth o 28,676. Mae’r dref ar
derfyn Dyffryn Aman ac fe’i datblygwyd yn dref fwyngloddio, gan
fanteisio ar y dyddodion glo helaeth yn yr ardal. Erbyn hyn, mae’r
rhan fwyaf o’r mwyngloddio wedi dod i ben ond mae Rhydaman yn
parhau’n gymuned sy’n ffynnu ac mae ganddi ardal siopa fywiog
sy’n gwasanaethu’r dref a sawl pentref yn yr ardal gyfagos.
Mae’r orsaf yn gwasanaethu tref Rhydaman a’r cymunedau cyfagos
ac mae ganddi Dendar Achub a sawl peiriant arbennig sy’n cynnwys
Pwmp Cyfaint Uchel, cyfarpar anadlu Uned Gymorth ac Uned Les.
Mae’r Pwmp Cyfaint Uchel yn Adnodd Ymateb Cenedlaethol, a gellir
galw arno i fynd i ddigwyddiadau ledled y DU yn rhan o Gynllun
Cydnerthu Cenedlaethol Llywodraeth y DU. Mae’r risgiau yn yr ardal
yn cynnwys nifer fawr o safleoedd diwydiannol a masnachol, ysgol
uwchradd a choleg technegol, pwll mawr glo brig a nifer o chwareli
mawr. Mae rheilffordd Canolbarth Cymru yn rhedeg trwy’r ardal ac
mae’r rhwydweithiau ffyrdd helaeth lleol yn cynnwys yr M4, yr A48
a’r A483. Mae tanau eilaidd sy’n cynnwys porfa a rhostir yn gyffredin
yn yr ardal ac mae Dyffryn Aman yn enwedig yn dioddef nifer fawr o
danau yn y categori hwn yn flynyddol.