Aberystwyth yw’r dref fwyaf yng Ngheredigion a dangosodd amcangyfrifon
poblogaeth Ganol 2010 mai’r boblogaeth oedd:
12,250
o fewn ffiniau traddodiadol y dref, neu
17,730
gan gynnwys Llanbadarn Fawr, Waunfawr a Chomins Coch
Yn ystod blwyddyn academaidd 2009/10, roedd tua 14,145 o fyfyrwyr wedi’u
cofrestru ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac roedd tua 7,840 o’r rhain yn fyfyrwyr
llawn amser. Gellir ychwanegu 10,000 o fyfyrwyr sy’n mudo at y boblogaeth yn
ystod y tymor. Mae’r bobl sy’n byw yn ardal Aberystwyth yn cyfrif am ychydig
dros 23% o boblogaeth ganol 2010 y Sir sef 76,900. Mae’r ffigur hwn hefyd yn
cynyddu yn ystod cyfnod yr haf oherwydd mewnlifiad o dwristiaid sy’n ymweld â’r
ardal. Gellir cyrraedd Aberystwyth trwy ddau brif rwydwaith ffyrdd, ffordd
arfordirol yr A487 a ffordd fynyddig yr A44, ac mae’r ddau ohonynt yn flaenllaw
o ran galwadau gorsafoedd a gweithgarwch craidd Diogelwch Cymunedol oherwydd maint
llif y traffig dros dro sy’n mynd trwy’r ardal. Mae afon Rheidol yn llifo
trwy’r dref ac mae’n tueddu i orlifo’n dymhorol. Mae gan y dref ardal
ddiwydiannol weddol fawr yn ward Llanbadarn, ysbyty mawr, Prifysgol, dwy ysgol
uwchradd fawr, swyddfa ranbarthol Llywodraeth Cymru ac mae’n gartref i Lyfrgell
Genedlaethol Cymru. Mae gan y dref ganolfan siopa a nifer fawr o westai
sylweddol i letya’r mewnlifiad o dwristiaid.