Mae Aberteifi ar aber afon Teifi lle mae Ceredigion yn cwrdd â Sir Benfro.
Dyma’r ail dref fwyaf yng Ngheredigion. Yn 2001, poblogaeth y dref oedd 4,203 o
breswylwyr. Mae’n ganolfan weinyddol ranbarthol arwyddocaol ar gyfer Gorllewin
Cymru ac mae ganddi ysbyty, coleg, canolfan gelfyddydau fodern, Neuadd y Dref
o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, castell newydd ei adnewyddu a theatr.
Mae’r orsaf yn gwasanaethu
Aberteifi a chymunedau cyfagos Llechryd, Llandudoch ac Aberporth.
Mae tref Aberteifi a’i chymunedau cyfagos yn wynebu risg gyffredin yn
bennaf gyda’u tai domestig, ac mae ychydig
o ardaloedd yn wynebu mwy o risg na’r cyffredin. Mae’r dref yn dref farchnad
brysur ac mae ganddi amryw o dafarndai a gwestai. Y prif risg ar gyfer yr orsaf
a’i chymunedau cyfagos yw’r rhwydweithiau o ffyrdd A a B. Mae gan y dref hefyd
risgiau eraill gan gynnwys ysbyty bach, ysgol uwchradd, ardal fach o unedau
diwydiannol a chanolfan QinetiQ yn Aberporth.
Mae demograffeg a
matrics risg y dref yn dylanwadu ar alwadau’r orsaf a chaiff hyn ei adlewyrchu
yn nifer y personél, yr offer a’r rhaglenni hyfforddi a fabwysiadir gan y
staff.