Partneriaethau Trydydd Sector
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau’r Trydydd Sector, i gyfrannu at ddiogelwch grwpiau agored i niwed yn ardal y Gwasanaeth.

Dangoswyd bod pobl agored i niwed mewn perygl yn uwch o ddioddef tân yn eu cartrefi na’r boblogaeth yn gyffredinol. Dengys yr ystadegau eich bod chi 6 thro’n fwy tebygol o farw mewn tân os nad oes gennych larwm mwg sy’n gweithio.
Cydnabyddir bod y sector gwirfoddol yn debygol o fod â chysylltiadau cadarn gyda rhai o aelodau mwyaf agored i niwed ein poblogaeth, ac felly mae mewn sefyllfa gref i fynd ati’n weithgar i leihau’r nifer o farwolaethau ac anafiadau perthynol i dân.
Ariennir y prosiect gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n gweithio’n agos gyda mudiadau’r Trydydd Sector i ganfod cyfleoedd i weithio’n agos a datblygu partneriaethau rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a’r Trydydd Sector, er mwyn cael mynediad at y bobl hynny y canfuwyd eu bod fwyaf mewn perygl, yr anoddaf i’w cyrraedd o fewn y gymuned, gyda’r ffocws pennaf ar gyflawni Archwiliadau Diogelwch Rhag Tân yn y Cartref .
Os ydych yn fudiad Trydydd Sector, Gwirfoddol neu’n Elusen a’ch bod yn gweithio’n agos gyda’r grwpiau yr ydym yn ystyried i fod yn agored i niwed – yna cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda. Mae’n bosib na fydd gan lawer o fudiadau’r gallu i gynnal archwiliadau diogelwch rhag tân yn y cartref, ond bod ganddynt y gallu i sefydlu system atgyfeirio.
Os hoffech wybodaeth bellach am y prosiect, yna cysylltwch â:
Roshnara Ali
Cydlynydd y Trydydd Sector
Lleihau Risg yn y Gymuned
Allanol: 0370 60 60 699
Estyniad Mewnol: Est. 2292
Ffôn Symudol: 07870 764 882
e-bost: r.ali@mawwfire.gov.uk