Tîm Cefnogi Ieuenctid Ethnig

Mae gennym berthynas hir â’n ffrindiau yn Abertawe ac rydym wedi gwneud llawer o brosiectau llwyddiannus megis
Sgyrsiau Diogelwch Tân yn y Cartref
Gwnaeth hyn ein galluogi i fynd i’r ganolfan ieuenctid yn Abertawe i gwrdd â phobl ifanc i drafod adeiladu perthnasau a hyrwyddo Negeseuon Diogelwch Tân.
Codi proffil y Gwasanaeth Tân
Rhoi cipolwg i oedolion ifanc y Gymuned Fwslimaidd ar y rolau a’r dyletswyddau amrywiol sydd i’w cael yn y gwasanaeth tân ar gyfer unrhyw gyfleoedd recriwtio yn y dyfodol.
Bod yn Ddiffoddwr Tân am y Diwrnod
Dyma un o’r prosiectau mwyaf poblogaidd ar gyfer ein myfyrwyr sy’n dod ar y cwrs undydd hwn sy’n galluogi disgyblion i roi cynnig ar heriau a gweithgareddau amrywiol yn un o’n Gorsafoedd Tân. Bydd yn cynnwys gweithgareddau adeiladu tîm a gwella hunan hyder trwy ddefnyddio offer sydd wedi’u haddasu yn arbennig ar gyfer y bobl ifanc.
Prosiect gwirfoddoli Diogelwch Tân yn y Cartref
Mae’r prosiect hwn yn cynnwys hyfforddi gwirfoddolwyr i wneud gwiriadau diogelwch tân yn y cartref yn eu cymunedau gan sicrhau bod gan bob cartref ac eiddo larymau mwg digonol.